Skip to main content

Mae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella’r gwasanaeth. English

Yn ôl

Telerau ac Amodau

Mae’r dudalen hon yn egluro telerau defnyddio’r gwasanaeth hwn. Ar y wefan hon maent yn cynnwys y polisi preifatrwydd a’r telerau ac amodau. Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn rydych yn cytuno i’r polisi preifatrwydd a’r telerau ac amodau.

Pwy ydym ni?

Rheolir y gwasanaeth hwn gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi a chyfeirir at y gwasanaeth o hyn ymlaen fel ‘ni’.

Efallai y byddwn yn diweddaru’r telerau ac amodau hyn os bydd newid yn y gyfraith neu newid i’r ffordd mae’r gwasanaeth yn gweithio.

Gwybodaeth a ddarperir gan y gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu gwybodaeth i’ch cefnogi. Ni allwn roi cyngor cyfreithiol ar achosion unigol.

Dylech ateb y cwestiynau yn seiliedig ar eich amgylchiadau a cheisio cyngor cyfreithiol os oes arnoch angen hynny.

Ble mae eich data’n cael ei storio?

Bydd eich data yn cael ei storio mewn canolfannau data yn y DU.

Rydym yn defnyddio GOV.UK Notify i anfon e-byst. Nes y trosglwyddir e-byst i’ch darparwr e-bost, fe’u prosesir yn yr AEE. Cedwir eich data am 1 mis, ac yna bydd yn cael ei ddileu.

Y gyfraith sy’n berthnasol

Bydd y defnydd a wnewch o’r gwasanaeth hwn ac unrhyw anghydfod sy’n codi o’i ddefnyddio yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990
  • Deddf Diogelu Data 1998
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Defnyddio’r gwasanaeth hwn yn gyfrifol

Cynlluniwyd y gwasanaeth ar gyfer pobl sydd angen ei ddefnyddio neu bobl sy’n ei ddefnyddio ar ran eraill gyda’u cydsyniad.

Mae peryglon yn gysylltiedig â defnyddio cyfrifiadur sy’n cael ei rannu (er enghraifft, mewn caffi rhyngrwyd) i gael mynediad at y gwasanaeth hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o’r peryglon hyn ac osgoi defnyddio unrhyw gyfrifiadur lle mae posibilrwydd y gallai eraill weld eich gwybodaeth bersonol. Chi sy’n gyfrifol os ydych chi’n dewis gadael cyfrifiadur heb ei ddiogelu tra rydych wedi mewngofnodi i’r gwasanaeth hwn.

Mae’n rhaid ichi gymryd camau priodol eich hun i sicrhau nad yw’r ffordd rydych yn cael mynediad at y gwasanaeth hwn yn eich gadael yn agored i’r peryglon hyn:

  • firysau
  • cod cyfrifiadur maleisus
  • niwed o fath arall a allai achosi difrod i’ch system gyfrifiadurol

Ni ddylech gamddefnyddio’r gwasanaeth hwn drwy fynd ati’n fwriadol i gyflwyno firysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol i dechnoleg. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod at y gwasanaeth hwn, y system lle caiff ei storio nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth. Ni ddylech ymosod ar y wefan hon drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth a ddosbarthwyd.

Mae’r gwasanaeth ar-lein hwn yn cynnwys meysydd testun rhydd lle bydd gofyn ichi nodi mathau penodol o wybodaeth. Ni ddylid rhoi gwybodaeth sensitif yn y rhannau hyn. Gall data sensitif gynnwys manylion credoau crefyddol a data ariannol ymysg pethau eraill. Chi sy’n gyfrifol am unrhyw ddata sensitif yr ydych yn ei ddarparu.

Newidiadau i’r telerau ac amodau hyn

Dylech wirio’r telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Efallai y byddwn yn eu diweddaru ar unrhyw adeg heb rybudd.

Byddwch yn cytuno i unrhyw newidiadau drwy barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar ôl i’r telerau ac amodau gael eu diweddaru.

Cysylltu â ni

  • CTSC (Courts and Tribunal Service Centre)
  • C/o HMCTS Digital Divorce Services
  • PO Box 13226
  • Harlow
  • CM20 9UG
Cysylltu â ni am gymorth
  • Sgwrsio dros y we

    Yn anffodus, rydym yn cael problemau technegol. Cysylltwch â ni dros y ffôn neu e-bost.

  • Anfonwch neges atom

    Anfonwch neges atom
  • Ffoniwch

    0300 303 5171

  • Oriau agor

    Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am-4.30pm

    Ar gau ar ddydd Sadwrn, Sul a Gwyliau Banc