Cwcis
Darn bach o ddata sy’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur, eich tabled neu eich ffôn symudol pan fyddwch yn ymweld â gwefan yw cwci. Mae angen cwcis ar y rhan fwyaf o wefannau i weithio’n iawn.
Sut ydym yn defnyddio cwcis yn y gwasanaeth hwn:
- mesur sut ydych yn defnyddio’r gwasanaeth fel y gallwn ei ddiweddaru a’i wella yn seiliedig ar eich anghenion chi
- cofio’r hysbysiadau rydych wedi’u gweld fel na fyddwch yn eu gweld eto
- storio’r atebion a roddwch dros dro
Darganfod mwy am sut i reoli cwcis..
Sut rydym yn defnyddio cwcis yn y gwasanaeth gwneud cais am ysgariad
Cwcis a ddefnyddir i fesur faint o bobl sy’n defnyddio ein gwefan
Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Rydym yn gwneud hyn i helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion defnyddwyr ac i’n helpu i wneud gwelliannau, er enghraifft gwella’r cyfleuster chwilio.
Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am:
- y tudalennau yr ydych yn ymweld â hwy
- faint o amser y byddwch yn ei dreulio ar bob tudalen
- sut y daethoch o hyd i’r gwasanaeth
- yr hyn rydych chi’n clicio arno wrth ddefnyddio’r gwasanaeth
Rydym yn caniatáu i Google ddefnyddio neu rannu ein data dadansoddi. Gallwch ddarganfod mwy am sut mae Google yn defnyddio’r wybodaeth hon yn eu Polisi Preifatrwydd.
Gallwch optio allan o Google Analytics os nad ydych eisiau i Google gael mynediad at eich gwybodaeth.
Rhestr o’r cwcis Google Analytics a ddefnyddir.
Enw’r cwci | Pwrpas y cwci | Darfod ymhen |
---|---|---|
_ga | Mae hyn yn ein helpu i gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â’r tudalennau drwy olrhain os ydych wedi ymweld o’r blaen | 2 flynedd |
_gat | Rheoli faint o bobl sy’n ymweld â’r dudalen | 10 munud |
_gid | Gadael i’r gwasanaeth wybod pwy ydych chi | 24 awr |
Cwcis a ddefnyddir i droi ein neges gyflwyno i ffwrdd
Efallai y byddwch yn gweld neges groeso pan fyddwch yn ymweld â’r gwasanaeth am y tro cyntaf. Byddwn yn storio cwci ar eich cyfrifiadur fel ei fod yn gwybod i beidio â’i dangos eto.
Enw’r cwci | Pwrpas y cwci | Darfod ymhen |
---|---|---|
seen_cookie_message | Cadw neges ar eich cyfrifiadur i roi gwybod inni eich bod wedi gweld ein neges ynglŷn â chwcis | 1 mis |
Cwcis a ddefnyddir i storio’r atebion a roesoch yn ystod eich ymweliad (gelwir hyn yn ‘sesiwn’)
Caiff cwcis sesiwn eu storio ar eich cyfrifiadur wrth ichi fynd drwy wefan, ac maent yn gadael i’r wefan wybod beth rydych wedi’i weld a’i wneud hyd yn hyn. Cwcis dros dro yw’r rhain ac fe’u dilëir yn awtomatig ychydig ar ôl ichi adael y wefan.
Enw’r cwci | Pwrpas y cwci | Darfod ymhen |
---|---|---|
connect.sid | Gwybodaeth am eich sesiwn gyfredol | Pan fyddwch chi’n cau’ch porwr |
Cwcis a ddefnyddir i’ch adnabod pan fyddwch yn dod nôl i’r gwasanaeth
Rydym yn defnyddio cwcis dilysu i’ch adnabod pan fyddwch yn dod nôl i’r gwasanaeth.
Enw’r cwci | Pwrpas y cwci | Darfod ymhen |
---|---|---|
__auth-token | Gadael i’r gwasanaeth wybod pwy ydych chi | Pan fyddwch chi’n cau’ch porwr |
Cwcis a ddefnyddir i wneud y gwasanaeth yn fwy diogel
Rydym yn gosod cwcis er mwyn rhwystro hacwyr rhag addasu cynnwys y cwcis eraill a osodon ni. Mae hyn yn gwneud y gwasanaeth yn fwy diogel ac yn diogelu eich gwybodaeth bersonol.
Enw’r cwci | Pwrpas y cwci | Darfod ymhen |
---|---|---|
TSxxxxxxxx | Amddiffyn eich sesiwn rhag i rywun ymyrryd ag o | Pan fyddwch chi’n cau’ch porwr |
__state | Gadael i’r gwasanaeth wybod pwy ydych chi a diogelu eich manylion | Pan fyddwch chi’n cau’ch porwr |
Cwcis a ddefnyddir i fesur perfformiad y gwasanaeth
Rydym yn defnyddio Platfform Deallusrwydd Meddalwedd Dynatrace i ddarparu Gwasanaeth Monitro Perfformiad Gwasanaeth i gasglu gwybodaeth am sut yr ydych yn defnyddio gwasanaethau GLlTEM.Rydym yn gwneud hyn i fonitro gwasanaethau GLlTEM er mwyn datrys problemau yn ein gwasanaethau a chasglu data ar sut y gallwn eu gwella. Mae GLlTEM yn storio gwybodaeth am:
- Berfformiad y wefan
- Y defnydd a wneir o’r wefan
- Ymddygiad defnyddwyr
Cyflwynir yr wybodaeth angenrheidiol yn y Gwasanaeth Monitro Perfformiad Gwasanaeth at y dibenion a nodwyd uchod. Nid ydym yn defnyddio neu’n rhannu’r wybodaeth ar gyfer unrhyw bwrpas arall. Nid ydym yn caniatáu i Dynatrace ddefnyddio neu rannu’r wybodaeth ar gyfer unrhyw bwrpas arall.
Enw’r cwci | Pwrpas y cwci | Darfod ymhen |
---|---|---|
dtCookie | Olrhain ymweliad ar draws ceisiadau amryfal | Pan ddaw’r sesiwn i ben |
dtLatC | Mesur natur gudd y gweinydd er mwyn monitro perfformiad y gwasanaeth | Pan ddaw’r sesiwn i ben |
dtPC | Er mwyn canfod pwyntiau terfyn priodol ar gyfer trosglwyddo tywysydd: mae’n cynnwys rhif adnabod y sesiwn at ddibenion cydberthyniad | Pan ddaw’r sesiwn i ben |
dtSa | Storfa gyfryngol ar gyfer gweithrediadau sy’n rhychwantu tudalennau | Pan ddaw’r sesiwn i ben |
rxVisitor | Rhif adnabod ymwelydd er mwyn cydberthnasu sesiynau | 1 blwyddyn |
rxvt | Diwedd y sesiwn | Pan ddaw’r sesiwn i ben |
Newid eich gosodiadau cwcis
Cysylltu â ni am gymorth
-
Sgwrsio dros y we
Mae ein gwasanaeth cyngor ar-lein ar gau ar hyn o bryd.
Mae ein cynghorwyr i gyd yn brysur ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni ymhen ychydig o funudau.
Yn anffodus, rydym yn cael problemau technegol. Cysylltwch â ni dros y ffôn neu e-bost.
-
Anfonwch neges atom
Anfonwch neges atom -
Ffoniwch
0300 303 5171
-
Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am-4.30pm
Ar gau ar ddydd Sadwrn, Sul a Gwyliau Banc