Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth Gwneud cais am ysgariad service
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan https://www.apply-divorce.service.gov.uk.
Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i gwneud cais am ysgariad.
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM sy’n gyfrifol am y wefan hon. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu ei defnyddio, felly rydym wedi ceisio ei gwneud mor hygyrch â phosibl. Er enghraifft, dylech allu:
- newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a’r ffontiau
- gwneud y testun hyd at 300% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
- mynd drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Gwyddwn nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Mae’r materion canlynol wedi’u canfod mewn rhai rhannau o’r wefan:
Mae gan y dolenni neidio i’r gwall ar y dudalen briodoledd nhref nad yw’n cyfeirio at ddynodydd dilys. Bydd defnyddwyr sy’n clicio ar y dolenni gwall yn canfod bod y ddolen yn agor tudalen newydd yn hytrach na chyfeirio’r defnyddiwr at leoliad y gwall.
Mae gan bob un o’r elfennau testun ar gyfer ‘Creu cyfrif neu fewngofnodi’ briodoledd awtolenwi sydd â gwerth sydd wedi’i osod i ‘i ffwrdd’. Mae’r gwerth hwn yn diffodd y priodoledd awtolenwi. Mae’r nodwedd awtolenwi yn helpu defnyddwyr sydd â nam gwybyddol i ddeall pwrpas yr elfen benodol honno.
Ar ôl i ddefnyddiwr darllenydd sgrin dderbyn yr wybodaeth am gwcis, mae yna fotwm gyda’r label ‘Cuddio’r neges hon’ yn ymddangos. Efallai na fydd gan y label bwrpas amlwg i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin sy’n llywio’r rhestr ffurflenni gan nad oes testun yn ymwneud â chynnwys y cwcis.
Mewn rhai achosion, pan fydd y dangosydd ffocws yn ymddangos ar gefndir gwyn, dim ond cyferbyniad o 1.6:1 sydd ganddo.
Ni yw rhai tudalennau’n cynnwys y testun ‘GOV.UK’ yn nheitl y dudalen. Mae cynnwys GOV.UK yn nheitl y dudalen yn galluogi defnyddwyr darllenydd sgrin i adnabod yn gyflym ei bod yn wefan y llywodraeth.
Mae’r crynodebau gwallau yn cynnwys y testun ‘Mae gwybodaeth ar goll neu nid yw’n ddilys’ yn hytrach na ‘Mae yna broblem’. Hefyd, nid yw’r negeseuon gwall yn cyfateb, ac nid yw’r ffocws bysellfwrdd yn cyfeirio’r defnyddiwr at grynodeb o’r gwall. Yn ogystal â hyn, nid yw clicio ar wall sy’n ymwneud â thestun a fewnbynnwyd yn gosod y ffocws bysellfwrdd wrth y testun hwnnw. Nid oes gan rai crynodebau gwallau briodoledd rôl=rhybudd.
GOV.UK dylai gwasanaethau gynnwys y gair ‘Gwall:’ yn nheitl y dudalen os oes gwallau yn bresennol. Mae hyn yn helpu defnyddwyr darllenydd sgrin i adnabod bod gwall ar y dudalen.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Defnyddir dogfennau PDF i lwytho a chadw dogfennau cyfreithiol ond mae’n bosib nad ydynt wedi’u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
Anfonwch neges e-bost i: contactdivorce@justice.gov.uk
Ffoniwch: 0300 303 5171 (Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am-4.30pm)
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Riportio problemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau nad ydynt yn cael eu crybwyll ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â:
Anfonwch neges e-bost i: contactdivorce@justice.gov.uk
Ffoniwch: 0300 303 5171 (Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am-4.30pm)
Y Weithdrefn Orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun ar gyfer pobl byddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae yna ddolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer.
Gwybodaeth am sut i gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae GLlTEM wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1,, a hynny oherwydd yr enghreifftiau o beidio â chydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Mae gan y dolenni neidio i’r gwall ar y dudalen briodoledd nhref nad yw’n cyfeirio at ddynodydd dilys. Bydd defnyddwyr sy’n clicio ar y dolenni gwall yn canfod bod y ddolen yn agor tudalen newydd yn hytrach na chyfeirio’r defnyddiwr at leoliad y gwall. 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
Mae rhai o’r cyfuniadau lliw a ddefnyddir ar y wefan o gyferbyniad isel ac yn debygol o fod yn anodd i bobl â golwg gwan eu darllen. Nid yw hyn yn cydymffurfio â WCAG 2.1 Cyfeirnod 1.4.11 Cyferbyniad nad yw’n ymwneud â thestun.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Defnyddir dogfennau PDF i lwytho a chadw dogfennau cyfreithiol ond mae’n bosib nad ydynt wedi’u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
TMae GLlTEM yn defnyddio meddalwedd hygyrchedd a phrofion awtomataidd i brofi’r wefan hon yn barhaus. Bydd unrhyw nodweddion newydd a gyflwynir hefyd yn cael eu profi. Mae hyn yn ein helpu i ddatrys problemau cyn i ni lansio tudalennau neu nodweddion newydd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 29 Mawrth 2022. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 5 Ebrill 2022.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 28 Chwefror. Y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) wnaeth brofi’r wefan yn erbyn Safonau WCAG 2.1 AA.
Er mwyn rhoi adolygiad mwy cywir o’r gwasanaeth, mi wnaeth tîm DAC ddefnyddio dwy broses brofi wahanol:
- archwiliad technegol â llaw gan ddefnyddio offer awtomataidd
- tîm ymroddedig o ddefnyddwyr gydag anableddau gwahanol yn defnyddio ystod o dechnolegau addasu.
Cysylltu â ni am gymorth
-
Sgwrsio dros y we
Mae ein gwasanaeth cyngor ar-lein ar gau ar hyn o bryd.
Mae ein cynghorwyr i gyd yn brysur ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni ymhen ychydig o funudau.
Yn anffodus, rydym yn cael problemau technegol. Cysylltwch â ni dros y ffôn neu e-bost.
-
Anfonwch neges atom
Anfonwch neges atom -
Ffoniwch
0300 303 5171
-
Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am-4.30pm
Ar gau ar ddydd Sadwrn, Sul a Gwyliau Banc